Coron Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau eleni
Mae llwyddiant ymgyrch ariannol Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn eleni wedi annog y Brifwyl i anelu’n uwch.

Y targed gwreiddiol oedd £267,000, ond gan fod £281,000 eisoes wedi  dod i mewn, mae’r nod bellach wedi codi i £300,000.

Fe ddaeth hyn i’r amlwg yn adroddiad ariannol cyfarfod o Gyngor yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghil-y-coed, Sir Fynwy, y bore yma.

Fe glywodd yr aelodau hefyd fod Eisteddfod Sir Gâr 2014 wedi llwyddo i godi £600,000 trwy werthiant tocynnau, a bod y maes carafanau wedi dod â £100,000 i’r coffrau. Fe ddenodd yr wyl yn Llanelli £350,000 o nawdd masnachol, a thros £100,000 gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Mae diffyg cronfa bensiwn yr Eisteddfod Genedlaethol, yn ôl adroddiad gan y Trysorydd, Eric Davies, bellach wedi gostwng i £290,000. Roedd y diffyg ddwy flynedd yn ôl yn £1.5m.

Un siom gafodd ei chofnodi, sef mai dim ond £14,000 a dderbyniwyd trwy ewyllysiau a chymynroddion yn ystod y ddwy flynedd ddiwetha’. Y teimlad oedd bod angen atgoffa pobol o’r modd y gallan nhw adael arian i’r Eisteddfod, a bod modd gwneud hynny trwy gyfreithwyr a banciau.

Cystadleuwyr

Yn ei hadrodddiad hi, yn rhinwedd ei swydd yn Gadeirydd Pwyllgor Gwaith Maldwyn, fe rannodd Beryl Vaughan rai ystadegau am brifwyl 2015.

Yn eu plith ym Meifod eleni, bydd 15 band pres ar draws y pedwar dosbarth; 11 o gorau adrodd; a 71 o blant yn cystadlu ar yr unawd dan 12 oed. Mae 19 wedi anfon eu henwau i mewn am Wobr Goffa Llwyd o’r Bryn hefyd.