Mae Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol wedi derbyn galwad gan ddau o’i aelodau ieuengaf i  wneud y drefn o dderbyn aelodau newydd i’r corff.

Mewn cyfarfod yng Nghil-y-Coed, Sir Fynwy, fore heddiw, fe alwodd Heledd Fychan a Llyr Roberts am wneud y broses o ethol aelodau newydd, iau, i’r Llys a’r Cyngor, yn llai trafferthus.

Yn dilyn hyn, fe basiwyd cynnig na fydd raid i ddarpar aelodau newydd bellach gael eu cynnig gan gynigydd yn ogystal â chael cefnogaeth chwech o bobol eraill sydd eisoes yn aelodau.

O hyn allan, fe fydd cael aelod i gynnig, ac aelod arall i eilio, yn ddigon.

“Dydi hi ddim yn glir sut mae pobol yn dod yn aelodau, a dydi pawb ddim efo’r rhwydweithiau i gael digon o bobol i’w cynnig a’u cefnogi nhw,” meddai Heledd Fychan wrth y cyfarfod o 16 o bobol yng Nghil-y-Coed.

“Dydi hi chwaith ddim yn hollol glir be’ ydi gwaith y Cyngor. Efallai bod angen cael trafodaeth ar hyn hefyd, gan fod yna rai yn dweud wrtha’ i nad oes pwynt iddyn nhw ddod i gyfarfodydd, os mai’r cwbwl maen nhw’n wneud ydi codi llaw a dim byd arall.”

Fe gadarnhawyd yn y cyfarfod mai dwy swyddogaeth glir Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol ydi:

– Craffu ar waith Bwrdd Rheoli y brifwyl, sef y pwyllgor sy’n gwneud y penderfyniadau dydd-i-ddydd;

– Cynllunio yn ariannol a strategol ar gyfer dyfodol tymor hir yr Eisteddfod.