Plismyn ar y traeth yn Sousse
Fe fydd cyrff rhagor o’r Prydeinwyr gafodd eu lladd yn yr ymosodiad ar dwristiaid yn Tiwnisia yn cael eu cludo yn ôl i Brydain heddiw.

Daw wrth i lywodraeth Tiwnisia ddweud bod 12 o bobol wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad ar draeth Sousse ddydd Gwener ddiwethaf.

Cafodd wyth Prydeiniwr gafodd eu saethu’n farw eu cludo yn ôl i’r DU ddoe, gan gynnwys y person ieuengaf i gael ei ladd, Joel Richards, 19. Cafodd ei ladd ynghyd a’i ewythr Adrian Evans a’i daid Patrick Evans.

Roedd Trudy Jones o’r Coed Duon yng Ngwent, mam i bedwar o blant, hefyd ymysg y meirw.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor Philip Hammond y bydd gweddill y cyrff yn cael eu cludo yn ôl “dros y dyddiau nesaf”.

O’r 38 o bobol fu farw, mae 29 o Brydain wedi cael eu hadnabod yn ffurfiol erbyn hyn.

Llinell gymorth

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei bod yn sefydlu llinell gymorth arbennig i helpu’r rheini sy’n dychwelyd adref a theuluoedd y dioddefwyr.

Bydd y Llinell Gymorth, fydd ar gael tan ddydd Iau 2 Gorffennaf, yn darparu gwasanaeth cymorth gwrando cyfrinachol am 24 awr o’r diwrnod. Y rhif ffôn yw 0800 107 0900.