Heathrow
Mae adroddiad hirddisgwyliedig i ymestyn meysydd awyr wedi argymell y dylai llain lanio newydd fod yn Heathrow yn hytrach na Gatwick.

Ar ôl ymchwiliad o dair blynedd mae’r Comisiwn Meysydd Awyr wedi dweud mai Heathrow yw’r lle gorau i ymestyn capasiti “sydd ei angen ar frys.”

Mae wedi argymell adeiladu llain lanio newydd yn Heathrow yn hytrach nag ymestyn y lleiniau glanio presennol neu adeiladu un newydd yn Gatwick.

Mae’r Comisiwn hefyd wedi argymell pecyn cynhwysfawr o fesurau er mwyn gwneud y datblygiad yn Heathrow yn fwy derbyniol i’r gymuned leol.

Mae’n cynnwys gwahardd teithiau gyda’r nos rhwng 11.30yh i 6yb, cyfyngu ar lefelau sŵn, a rhoi cymorth i insiwleiddio cartrefi, ysgolion a chyfleusterau cymunedol yn ardal Heathrow.

Dywedodd cadeirydd y Comisiwn Syr Howard Davies bod meysydd awyr Llundain yn dangos arwyddion o “straen” ac y byddai’r system yn llawn erbyn 2040 oni bai eu bod yn gweithredu.

Fe fydd y Llywodraeth nawr yn ystyried yr argymhellion ond dywed y Comisiwn bod angen penderfyniad terfynol yn fuan gan y gallai gymryd hyd at ddegawd cyn i’r llain lanio newydd fod yn weithredol.

Mae disgwyl i’r gost fod oddeutu £17.6 biliwn, yn ôl y Comisiwn.

Nid yw’r adroddiad wedi diystyru ehangu maes awyr Gatwick a dywedodd prif weithredwr y maes awyr Stewart Wingate bod Gatwick “dal yn y ras.”