Plismyn ar y traeth yn Sousse ger safle'r ymosodiad
Fe fydd y gwaith o gludo cyrff y Prydeinwyr gafodd eu lladd gan ddyn arfog ar draeth yn Tiwnisia, yn ôl i’r DU yn dechrau heddiw.
Fe fydd awyrennau’r Llu Awyr yn cludo cyrff y rhai fu farw yn cyrraedd Brize Norton ac mae disgwyl i’r broses gymryd rhai dyddiau.
Daeth cadarnhad swyddogol bod 24 o bobl o Brydain ymhlith y 38 gafodd eu saethu’n farw yn Sousse ddydd Gwener ddiwethaf. Yn eu plith mae Trudy Jones o’r Coed Duon yng Ngwent.
Mae disgwyl i’r ffigwr swyddogol gynyddu i 30.
Roedd y myfyriwr Seifeddine Rezgui, 23, wedi tanio gwn at dwristiaid ar y traeth cyn iddo gael ei saethu gan yr heddlu.
Mae’r bobl o Brydain gafodd eu hanafu yn yr ymosodiad bellach wedi cael eu cludo yn ôl i’r DU. Roedd pedwar o bobl wedi’u hanafu’n ddifrifol ac yn cael eu trin mewn ysbytai yn Birmingham, Rhydychen, Plymouth a Llundain.
Mae disgwyl i gwest i farwolaethau’r holl Brydeinwyr gael ei agor gan y crwner yng ngorllewin Llundain.
Yn Tiwnisia, mae’r awdurdodau yn parhau i holi nifer o bobl sy’n cael eu hamau o gynorthwyo Rezgui, oedd a chysylltiadau a’r grŵp eithafol IS.
Mae Arlywydd Tiwnisia Beji Caid Essebsi wedi dweud bod ymchwiliad ar y gweill i fethiannau diogelwch ac y bydd swyddogion arfog ar ddyletswydd ar draethau sy’n boblogaidd gyda thwristiaid.
Fe fydd munud o dawelwch am hanner dydd ddydd Gwener er cof am y rhai gafodd eu lladd a’u hanafu.
Dywed cwmnïau teithio Thomson a First Choice bod 4,000 o’u cwsmeriaid bellach wedi cael eu cludo yn ôl i’r DU ac y bydd 1,900 o gwsmeriaid yn dychwelyd o fewn y deuddydd nesaf.