Afon Taf, Caerdydd
Credir fod babi bach y cafwyd hyd i’w gorff yn yr Afon Taf yng Nghaerdydd yr wythnos diwethaf wedi cael ei eni’n farw.

Cafwyd hyd i gorff y bachgen bach yn yr afon ger Heol Penarth gan bysgotwr.

Mewn cynhadledd newyddion heddiw, dywedodd yr heddlu nad oes unrhyw wybodaeth ynglŷn â chyflwr y fam na’i lleoliad.

Fe wnaed apêl gan fydwraig o Ysbyty Athrofaol Cymru iddi gysylltu â thimau meddygol er mwyn derbyn triniaeth gyfrinachol.

Dywedodd y ditectif Mark O’Shea  bod post mortem wedi dangos bod y babi wedi marw wrth gael ei eni neu yn fuan iawn wedi hynny.