Mae Gerddi Aberglasne, Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas a ffynnon St Dyfnog yn Sir Ddinbych ymysg y prosiectau fydd yn elwa o £2.6m o arian loteri eleni.

Fe gyhoeddodd Cronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) y bydd deg prosiect ar hyd a lled Cymru yn elwa o’r arian, gan ddweud y byddai’n cynnig cefnogaeth angenrheidiol i dreftadaeth naturiol, ddiwydiannol, morwrol a chwaraeon Cymru.

Ymysg y lleoliadau fydd hefyd yn derbyn rhan o’r arian loteri mae Clwb Criced Casnewydd, ymgyrch i ddogfennu hanes morwrol Cei Connah, prosiect ffilm ym Merthyr Tudful, a gwaith atgyweirio i bedwar man addoli.

“Yma yn CDL, rydym yn gwybod bod treftadaeth yn golygu llawer o bethau i bobl wahanol,” meddai pennaeth newydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru, Richard Bellamy.

“Mae’r grantiau diweddaraf hyn yn adlewyrchu’r gred hwnnw gan fuddsoddi mewn ystod eang o brosiectau sy’n dathlu cefndir lliwgar ein gwlad, ynghyd a’i ddiogelu am y dyfodol.”

Croeso gan y Gweinidog

Yn ogystal â’r £2.6m fydd yn cael ei rannu rhwng y deg prosiect, fe fydd cefnogaeth ariannol gychwynnol o £77,200 hefyd yn cael ei roi tuag at ddau brosiect arall hefyd.

Bydd Gwaith Powdwr Gwn Glyn-nedd, Heneb Restredig sy’n cynnig cip ar gefndir peirianyddol yr ardal, ynghyd a Gwarchodfa Natur Gilfach yn Sir Faesyfed, hen fferm fynydd mewn tirlun hanesyddol yng nghanolbarth Cymru, yn derbyn arian i ddatblygu cynlluniau eu prosiectau ymhellach.

“Mae hyn yn newyddion gwych i’r deg prosiect a bydd yn helpu sicrhau bod treftadaeth amrywiol Cymru wedi’i ddiogelu a’i ddathlu yn y dyfodol,” meddai’r Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates.

“Mae ein treftadaeth yn rhoi hwb allweddol i’r economi Gymreig wrth annog twristiaeth sy’n ysgogi twf swyddi felly mae’r buddsoddiad Loteri Genedlaethol hwn mewn sector hollbwysig i’w groesawu’n fawr.”

Deg prosiect

Y deg prosiect sydd wedi derbyn cyllid oddi wrth y loteri yw:

*Creu swyddi newydd ar gyfer pobl leol yn Aberglasne a darparu swyddi dan hyfforddiant i ddatblygu sgiliau treftadaeth arddwriaethol (£949,500)

*Ymchwilio effaith y chwyldro diwydiannol ar fywydau pobl trwy berl diwydiannol Sir y Fflint, Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas (£949,400)

*Darganfod atgofion cyn chwaraewyr a swyddogion Clwb Criced Casnewydd am y maes chwarae criced hanesyddol, Rodney Parade (£18,000)

*Agor safle pererindod hanesyddol, Ffynnon St Dyfnog, fel bod rhagor o bobl yn gallu ei weld a’i fwynhau (£292,000)

*Dogfennu hanes morwrol Cei Connah a’i dociau hanesyddol a oedd unwaith yng nghanol byd masnach Sir Fflint (£5,300)

*Helpu pobl ifanc ym Merthyr Tudful i ymchwilio a chreu ffilm ar effaith ymfudiad Catholig ar eu cymuned yn “Ymfudiad Merthyr” (£47,400)

*Cefnogi pedwar eglwys yng Nghymru, gan helpu plwyfolion atgyweirio a chadw eu mannau addoli – Eglwys Priordy Cas-gwent (£146,900); Eglwys St James, Maenorbŷr (£59,400); Eglwys Unedig Stryd Tyddyn, Yr Wyddgrug (£48,900); a Chapel Cildwrn, Llangefni (£99,400)