Mark Drakeford
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi sut fyddan nhw’n gwario £7.6m o gyllid ychwanegol maen nhw wedi dweud y bydd yn rhoi tuag at wasanaethau iechyd meddwl ar gyfer pobl ifanc.

Bydd £2.7m o’r cyllid yn mynd tuag at ddatblygiadau a newidiadau sydd yn cael eu harwain gan y GIG i wasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc, gan gynnwys cefnogaeth arbenigol a chymorth tuag at adrannau brys.

Mae £2m hefyd yn cael ei neilltuo ar gyfer triniaethau ADHD, awtistiaeth a chyflyrau niwroddatblygol eraill, gydag £1.1m yn cael ei roi tuag at ddatblygu therapi seicolegol.

Yn ogystal â hynny fe fydd arian yn cael ei roi tuag at helpu timau iechyd meddwl mewn gofal cynradd, taclo seicosis ymysg pobl ifanc rhwng 15 a 24 oed, a datblygu gwasanaethau ar gyfer y rheiny sydd â risg o droseddu.

Dim cyfyngiadau

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw hefyd yn parhau i ariannu cronfa sydd yn rhoi cymorth i deuluoedd a gwarchodwyr plant pan fyddan nhw yn yr ysbyty.

“Ar draws Cymru mae timau gwasanaethau iechyd meddwl yn gweithio’n ddiflino i gefnogi plant a phobl ifanc gyda’u hanghenion emosiynol ac iechyd meddwl,” meddai’r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford.

“Fis diwethaf fe wnes i gyhoeddi y byddwn ni’n buddsoddi £7.6m yn ychwanegol bob blwyddyn i wasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc ar draws Cymru.

“Heddiw rwy’n falch o gadarnhau y bydd yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio i sicrhau bod plant a phobl ifanc a’u teuluoedd yn cael y gefnogaeth gywir ar yr amser cywir.”