Trenau First Great Western
Mae’r gwasanaeth trên o Lundain ar draws de Cymru’n wynebu cyfnod o weithredu diwydiannol yn dilyn pleidlais am streic gan weithwyr.
Mae 80% o’r pleidleiswyr mewn balot gan undeb yr RMT, sy’n gweithio i First Great Western, wedi cefnogi’r syniad o gynnal streic yn erbyn y cwmni trenau. Roedd 92% hefyd yn fodlon gweithredu mewn ffyrdd eraill.
Yn ôl yr undeb, mae’r gweithwyr yn teimlo’n rhwystredig fod y cwmni’n anwybyddu eu cwynion, yn gwrthod sicrwydd am eu swyddi ac yn parhau i esgeuluso diogelwch y cyhoedd ar y trenau.
“Maen nhw’n bwrw ymlaen i gael gwared ar gerbydau bwffe, yn peryglu diogelwch pobol yn y gorsafoedd ac yn gwneud elw mawr allan o’r trenau y mae’r trethdalwyr wedi talu amdanyn nhw,” meddai Mick Cash, ysgrifennydd cyffredinol yr RMT.
Effaith ar y gwasanaeth
Dyw’r undeb ddim wedi cyhoeddi dyddiad y streiciau eto nac am ba hyd y byddan nhw’n para.
Ond, fe fyddai streic yn effeithio ar wasanaethau’r brif linell reilffordd sy’n rhedeg o Lundain, dan dwnnel Hafren ac i Sir Benfro.
“Mae’n chwerthinllyd i ddweud y gwir fod cwmni East Coast, sy’n cyflwyno’r un math o drenau, yn medru rhoi’r sicrwydd yr ’yn ni’n gofyn amdano, ond bod First Great Western yn dal i’n hanwybyddu,” meddai Mick Cash.
“Doedd gennym ni ddim dewis ond cyflwyno achos o streic,” ychwanegodd Mick Cash.
Mae gan yr RMT tua 80,000 o aelodau ar draws y Deyrnas Unedig.
Mae Golwg360 wedi gofyn am ymateb First Great Western i’r cyhoeddiad.