Huw Lewis
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei fod yn derbyn pob un o 68 o argymhellion yr Athro Donaldson mewn adroddiad oedd yn galw am “newidiadau radical” i’r cwricwlwm addysg.

Wrth siarad yn y Senedd y prynhawn ma, dywedodd y Gweinidog Addysg Huw Lewis bod angen datblygu’r cwricwlwm presennol, sydd wedi bod mewn grym ers 1988, a llunio canllawiau fwy “uchelgeisiol, deniadol, sy’n barod ar gyfer sialensiau’r 21ganrif.”

Bydd hyfforddiant i athrawon yn cael ei ddiwygio a bydd mwy o bwyslais yn cael ei roi ar wella sgiliau Cymraeg disgyblion mewn ysgolion uniaith Saesneg.

Ymysg rhai o’r newidiadau eraill, fe gyhoeddodd Huw Lewis ei fod yn cefnogi awydd yr Athro Donaldson i newid y ffordd mae disgyblion yn cael eu harholi o fewn y cyfnod allweddol.

Cadarnhaodd Huw Lewis y bydd yn cyhoeddi fframwaith ar gyfer cyflwyno’r cwricwlwm newydd yn yr hydref.

“Rwy’n ymwybodol o’r ffaith ein bod yn gofyn llawer iawn gan ein hathrawon, ein darlithwyr, ein harweinwyr a’n staff cymorth. Eto i gyd, gwn fod y gweithlu wedi ymrwymo i gyflawni’r gorau ar gyfer ein pobl ifanc a byddwn yn eu cefnogi ar hyd y daith heriol a chyffrous hon.”

Grŵp ymgynghorol

Fe gyhoeddodd y Gweinidog hefyd y bydd yn sefydlu grŵp ymgynghorol annibynnol, fydd yn cael ei gadeirio gan yr Athro Donaldson a’i gefnogi gan yr Athro John Furlong, i gefnogi’r newidiadau.

Yn ogystal, fe ddwedodd Huw Lewis bod angen edrych ar strwythur gwersi addysg grefyddol yn y dyfodol.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru wedi croesawu datganiad Huw Lewis ond wedi galw am roi mwy o bwyslais ar adroddiad yr Athro Sioned Davies oedd yn galw am ddileu’r syniad o Gymraeg ail iaith.

‘Pryder’

Ond mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi mynegi pryder yn dilyn datganiad Llywodraeth Cymru heddiw.

Wrth ymateb i’r datganiad, dywedodd Ffred Ffransis, llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Mae’n edrych fel bod y Gweinidog yn dal i geisio gwella system sy’n fethiant llwyr ac sy’n amddifadu mwyafrif helaeth ein pobl ifanc o’r Gymraeg.

“Yr hyn sydd angen iddo wneud yw gwrando ar yr hyn mae’r holl arbenigwyr yn dweud sef bod angen terfynu Cymraeg Ail Iaith a symud at drefn gyda pheth o addysg pawb yn gyfrwng Cymraeg. Dyna’r ffordd i sicrhau bod y Gymraeg yn iaith i bawb yn ein gwlad.

“Roedd geiriau’r Gweinidog dim ond ychydig wythnosau yn ôl yn awgrymu bod y Llywodraeth wedi gwrando ar ein pryderon a sylwadau’r arbenigwyr. Byddai’n destun pryder pe bai e’n gwneud tro-pedol ar ei eiriau e a geiriau’r Prif Weinidog drwy gicio’r mater i’r glaswellt hir unwaith eto.”