Ysbyty Maelor Wrecsam
Mae corff gwarchod iechyd annibynnol gogledd Cymru yn dweud bod eu pryderon am ofal cleifion dementia mewn ysbyty yn Wrecsam wedi cael eu “hanwybyddu” gan y bwrdd iechyd.

Mae Cyngor Iechyd Cymuned gogledd Cymru (CIC)  wedi ymateb i’r newyddion am honiadau ynglŷn â thriniaeth a gofal cleifion dementia ar ward Gwanwyn yn Uned Heddfan yn Ysbyty Maelor Wrecsam.

Daw’r honiadau am ward Gwanwyn yn sgil adroddiad damniol diweddar i’r methiannau yn ward iechyd meddwl Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan.

Ers hynny mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi cael ei roi o dan fesurau arbennig.

‘Anwybyddu’

Dywedodd Prif Swyddog CIC, Geoff Ryall-Harvey, heddiw eu bod wedi dod ar draws nifer o broblemau yn Uned Heddfan y llynedd.

Meddai fod y problemau yn ymwneud ag amgylchedd a chyfleusterau gwael a’r lefel o breifatrwydd ac urddas a roddwyd i gleifion.

Ychwanegodd eu bod wedi tynnu’r pryderon i sylw Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ar y pryd a’u bod wedi cael eu “hanwybyddu gan fwyaf.”

‘Problemau sylfaenol a difrifol’

Dywedodd Geoff Ryall-Harvey: “Yn wir, pan roddodd y Bwrdd Iechyd wybod i CIC yn ôl ym mis Rhagfyr 2013 am yr ymchwiliad i ward Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd, fe wnaethom fynegi ein pryderon y gallai materion tebyg fod yn digwydd mewn unedau eraill, cyffelyb ar draws yr ardal.

“Pan gyhoeddwyd yr adroddiad damniol i fethiannau’r Bwrdd Iechyd ar ward Tawel Fan ym mis Mai eleni, fe wnaethom gydnabod y gallai achosion unigol fel y rhai a nodwyd ddigwydd hyd yn oed yn y sefydliadau gorau.

“Er hynny, os oes sail i’r honiadau hyn, mae clywed fod materion tebyg wedi bod yn digwydd mewn dwy o’n hysbytai yn dangos fod problemau sylfaenol a difrifol yn y ffordd mae gwasanaethau iechyd yng ngogledd Cymru wedi bod yn cael eu rhedeg. Mae methu â gwrando ar bryderon CIC yn enghraifft arall o pam fod y Bwrdd bellach o dan fesurau arbennig.”

‘Tanseilio hyder’

Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Darren Millar, fod y sefyllfa yn bryderus iawn.

Meddai: “Bydd honiadau newydd am ofal cleifion yn sioc i gymunedau ac yn tanseilio hyder y cyhoedd yn y gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru ymhellach.

“Mae hon yn sefyllfa sy’n peri pryder aruthrol a dylai Gweinidogion Cymru wneud datganiad i gymunedau ledled Cymru cyn gynted ag y bo modd.

“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn parhau i alw am y newidiadau i arolygiaeth gofal iechyd – gan ei gwneud yn gwbl annibynnol o Lywodraeth Cymru – ac ymchwiliad cyhoeddus dros Gymru gyfan i safonau gofal.”

‘Gofidus’

Dywedodd Cadeirydd Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru, Jackie Allen: “Mae hyn yn parhau i fod yn amser hynod o ofidus i gleifion a’u teuluoedd ac mae Gwasanaeth Cwynion ac Eiriolaeth CIC yn barod i helpu pobl os ydynt yn dymuno mynd â’u pryderon drwy Weithdrefn Cwynion ffurfiol y GIG.

“Carai CIC hefyd glywed gan unrhyw un sydd â phryderon am ansawdd y gofal a ddarperir gan y gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru.

“Byddwn yn parhau i gefnogi gofal cleifion o ansawdd uchel gan herio’r Bwrdd Iechyd pan nad yw’r safonau uchel hynny yn cael eu cwrdd.”