Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddyn yn Abertridwr ger Caerffili ymosod ar ddyn arall mewn car.

Am 4:45 y bore ar 20 Mehefin, fe wnaeth yr ymosodwr gamu allan o’i gar ei hun yn Graig Y Fedw a thaflu dwrn at yrrwr car Fiat Scudo trwy ffenestr agored, cyn cicio a thorri golau blaen y car.

Mae’r troseddwr yn ddyn 2o-25 oed sydd tua 5 troedfedd a 10 modfedd o daldra, oedd yn gwisgo crys-t gwyn ar adeg yr ymosodiad.

Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â’r heddlu ar 101.