Eurostar
Mae streic gan weithwyr fferi yn Ffrainc wedi cau Twnnel y Sianel unwaith eto, gan arwain at ganslo gwasanaethau, meddai Eurotunnel.

Mae gwasanaethau trenau Eurostar wedi cael eu canslo oherwydd tân wrth geg y twnnel a gafodd ei gynnau gan y streicwyr.

Dyma’r ail waith mewn pythefnos i’r twnnel gael ei gau oherwydd y streic – ac mae Llywodraeth y DU wedi dweud bod y sefyllfa yn “hollol annerbyniol”.

Dywedodd llefarydd ar ran Eurostar nad ydyn nhw’n gwybod pryd fydd y gwasanaethau’n ail-ddechrau a dywedodd eu bod “yn gresynu at  weithredoedd yr undebau sydd wedi tarfu’n  ddifrifol ar draffig ar draws y Sianel dros yr wythnos diwethaf.”

Ychwanegodd y llefarydd: “Mae Eurotunnel yn galw ar lywodraethau’r DU a Ffrainc i ddod â diwedd ar y gweithredu diwydiannol hwn ac i adfer trefn yn rhanbarth Calais.”