Fe fydd hi’n rhatach i bobl o Brydain ddefnyddio eu ffôn symudol ar eu gwyliau yn Ewrop y flwyddyn nesaf, yn dilyn penderfyniad gan yr Undeb Ewropeaidd.

Ac o 2017 ymlaen, bydd costau ychwanegol am ddefnyddio ffonau symudol ar y cyfandir yn cael eu dileu yn gyfan gwbl.

Ar hyn o bryd mae pobl sydd yn defnyddio eu ffonau symudol dramor yn gallu wynebu biliau uchel os ydyn nhw wedi bod yn gwneud galwadau, anfon tecst neu ddefnyddio’r we ar eu teclynnau dramor.

Bydd y prif newid yn digwydd erbyn mis Mehefin 2017, ond o fis Ebrill 2016 bydd yn rhaid i gwmnïau telegyfathrebu gwtogi’r prisiau ychwanegol maen nhw’n gofyn gan bobl.

Cytundeb

Mae’r penderfyniad yn ganlyniad i fisoedd o ymdrechion i geisio lleihau’r gost o ddefnyddio ffonau symudol o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

O Ebrill 2016 ymlaen fydd cwmnïau telegyfathrebu ddim yn gallu codi mwy na €0.05 (3.5c) ychwanegol am alwadau ffôn o wledydd eraill yn Ewrop, mwy na €0.02 am yrru neges destun, a mwy na €0.05 am bob megabyte o ddata sy’n cael ei ddefnyddio.

Yn ôl y Comisiwn Ewropeaidd, fe fydd hyn yn ei gwneud hi 75% yn rhatach i ddefnyddio ffonau symudol mewn gwledydd eraill yn Ewrop yr haf nesaf o’i gymharu â’r costau presennol.

Bydd yn rhaid i gwmnïau telegyfathrebu wedyn gael gwared â holl gostau ychwanegol defnyddio ffonau symudol dramor yn Ewrop erbyn Mehefin 2017.

Mae disgwyl i wledydd yr Undeb Ewropeaidd gymeradwyo’r newidiadau yn swyddogol yn nes ymlaen eleni.