Mae Aelod Seneddol o Gymru wedi gofyn i’r Prif Weinidog David Cameron i wneud mwy i sicrhau nad yw pobol yn cael eu radicaleiddio dros y we, yn dilyn yr ymosodiad ar dwristiaid yn Nhiwnisia.

Mae David Hanson o ward Delyn yn Sir y Fflint wedi gofyn i’r Prif Weinidog gydweithio hefo cwmnïau cyfrifiadurol i atal gwybodaeth a negeseuon eithafol rhag cyrraedd pobol yn eu cartrefi.

Daw ei alwad wrth i Lywodraeth Prydain gyhoeddi bod nifer y Prydeinwyr fu farw yn dilyn yr ymosodiad bellach wedi codi i 21.

Fe wnaeth y dyn arfog Seifeddine Rezgui saethu 38 o bobol yn farw ar draeth yn Sousse ddydd Gwener ddiwetha’, cyn cael ei saethu’n farw gan yr heddlu. Mae adroddiadau bod dyn arfog arall yn rhan o’r weithred.

Ymosodiad hiliol yn Tesco

Yn Senedd San Steffan, fe wnaeth David Hanson gymharu ymosodiad Tiwnisia ag ymosodiad ar ddyn o dras Asiaidd yn archfarchnad Tesco yn Yr Wyddgrug. Awgrymodd bod y bobol oedd yn gyfrifol am y ddau ymosodiad wedi cael eu radicaleiddio.

“Ddiwrnod cyn y digwyddiad erchyll yma yn Nhiwnisia, fe gafodd dyn ei gyhuddo o ymosodiad hiliol ar berson mewn archfarchnad yn y Wyddgrug mewn golau dydd.

“Roedd wedi cael ei radicaleiddio gan gynnwys ar y we, all arwain at ymosodiadau Islamaidd fel yr un yma.

“Rwy’n croesawu araith y Prif Weinidog ond a fydd e o ddifrif yn cydweithio hefo darparwyr rhyngrwyd i stopio gwybodaeth o’r fath rhag cyrraedd ystafelloedd gwely pobol?”

Fe ymatebodd David Cameron trwy ddweud y bydd “yn sicr” yn gwneud hynny.

Anafiadau

Roedd Trudy Jones o’r Coed Duon, Gwent yn un o’r 38 o bobol fu farw yn yr ymosodiad yn Nhiwnisia.

Mae Mathew James 30, o Drehafod ger Pontypridd, eisoes yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd  ac yn debygol o fod yno am y pythefnos nesaf, yn ôl Heddlu De Cymru. Cafodd ei saethu deirgwaith wrth iddo geisio amddiffyn ei ddyweddi, Saera Wilson, 26, yn ystod yr ymosodiad.

Cafodd pedwar person arall eu cludo yn ôl i’r DU gan awyren y Llu Awyr heddiw ac mae Downing Street wedi dweud y bydd pob Prydeiniwr gafodd eu hanafu yn cael eu cludo yn ôl i’r DU o fewn y 24 awr nesaf.