Llys y Goron yr Wyddgrug
Mae cyn blismon gyda Heddlu Llundain wedi ei gael yn euog o droseddau rhyw hanesyddol.
Cafwyd Edward Huxley, 70, o Cookham yn Berkshire yn euog o ddau gyhuddiad o ymosod yn anweddus ar blant yn ardal Wrecsam.
Mae Edward Huxley yn un o saith o ddynion sydd wedi ymddangos yn Llys y Goron yr Wyddgrug mewn perthynas â throseddau rhyw hanesyddol fel rhan o Ymchwiliad Pallial.
Huxley yw’r pumed i’w gael yn euog. Mae un dyn arall – y cyn-athro Roger Griffiths o Wrecsam – wedi ei gael yn ddieuog.
Mae’r rheithgor yn parhau i ystyried eu dyfarniad yn achos un person arall – Keith Stokes.
Yr wythnos ddiwethaf cafwyd Mark Grainger, a oedd hefyd yn cael ei adnabod fel Gary Cooke, yn euog o 16 o gyhuddiadau, David Lightfoot yn euog o naw cyhuddiad, a Roy Norry yn euog o chwe chyhuddiad ac yn ddieuog o ddau.