Stadiwm y Mileniwm
Mae disgwyl y bydd economi Caerdydd yn elwa o ddegau o filiynau o bunnoedd wrth i ffeinal Cynghrair y Pencampwyr ddod i’r brifddinas yn 2017.
Fe gyhoeddodd UEFA heddiw fod gêm bêl-droed clwb fwyaf y byd am fod yn dod i Gymru ymhen dwy flynedd, ac mae sêr y tîm cenedlaethol Gareth Bale ac Aaron Ramsey eisoes wedi croesawu’r newyddion.
Yn ôl Swyddfa Cymru roedd cynnal y rownd derfynol yn Llundain yn 2013 wedi cyfrannu £44m tuag at economi’r ddinas, gan arwain at obeithion y gall Caerdydd elwa o hwb tebyg.
‘Hoelio sylw’r byd’
Wrth groesawu’r cyhoeddiad heddiw fe ddywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones y byddai denu gêm o statws mor uchel yn rhoi’r wlad ar y map yn rhyngwladol.
“Mae Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn un o ddigwyddiadau chwaraeon mwyaf y byd, ac rydw i’n arbennig o hapus fod Stadiwm y Mileniwm, sy’n stadiwm o safon fyd-eang, wedi cael ei ddewis fel y lleoliad ar gyfer rownd derfynol 2017,” meddai Carwyn Jones.
“Unwaith eto, bydd sylw’r byd wedi’i hoelio ar Gymru, a hoffwn ddiolch i UEFA am ymddiried ynom i sicrhau profiad pêl-droed Ewropeaidd heb ei ail.
“Rydym ni wedi profi ein bod ni’n gallu cyflawni gyda Super Cup UEFA y llynedd yn Stadiwm Dinas Caerdydd, a nawr fe allwn ni edrych ymlaen at groesawu cefnogwyr o bob cwr o Ewrop wrth iddynt ymweld â’n prifddinas a phrofi ein lletygarwch Cymreig enwog. Rydym ni’n addo gwneud cyfiawnder â’r achlysur anhygoel hwn.
“Gyda dau brawf yng nghyfres y Lludw, Cwpan Ryder, a’r gemau yng Nghwpan Rygbi’r Byd eleni, nid oes unrhyw amheuaeth o enw da Cymru fel cenedl sy’n darparu digwyddiadau chwaraeon o’r radd flaenaf.”
Croeso o Stryd Downing
Daeth croeso i’r newyddion o San Steffan hefyd, gyda’r Prif Weinidog David Cameron ac Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb yn cymeradwyo Stadiwm y Mileniwm fel “un o leoliadau chwaraeon gorau ein gwlad” yn ogystal ag “un o’r goreuon yn Ewrop”.
Fe fydd y gêm hefyd yn ffordd o ddangos i’r byd sut all Cymru gynnal digwyddiadau chwaraeon o’r radd flaenaf, yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Andrew RT Davies.
“Mae hyn yn newyddion gwych i Gymru, gan ein gosod ni ar y llwyfan rhyngwladol o flaen cynulleidfa o gannoedd o filiynau o wylwyr ar y teledu ym mhob cwr o’r byd,” meddai Andrew RT Davies.
Ychwanegodd llefarydd y Ceidwadwyr ar chwaraeon yn y Cynulliad, Mohammad Asghar, y gallai’r achlysur fod yn hwb i bêl-droed ar lawr gwlad hefyd.
“Bydd cael llygad y byd ar ein prifddinas yn dod a buddiannau nad oes modd eu mesur, nid yn unig o ran chwaraeon ond hefyd wrth hybu twristiaeth ac economi Cymru yn ehangach,” meddai Mohammad Asghar.
“Fe fydd hefyd yn hwb mawr i bêl-droed ar lawr gwlad yng Nghymru wrth i gefnogwyr lleol gael y cyfle i weld rhai o dalentau mwyaf y byd ar eu stepen ddrws.”
‘Parti yng Nghaerdydd’
Yn ôl Phil Bale, arweinydd Cyngor Caerdydd, fe fydd croeso Cymreig arbennig yn disgwyl cefnogwyr y ddau dîm fydd yn llwyddo i gyrraedd y ffeinal yn 2017.
“Mae ein dinas anhygoel wedi profi ei hun dro ar ôl tro i fod yn llwyfan godidog ar gyfer digwyddiadau enfawr ac mae sicrhau Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr 2017 yn gyfle gwych arall i arddangos Caerdydd i’r byd,” meddai Phil Bale.
“Rydw i ar ben fy nigon bod ein holl waith caled tu ôl i’r llenni wedi talu ar ei ganfed. Fe ŵyr Caerdydd sut i gael parti, ac mae Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr gyda’r mwyaf ar y blaned. Rydw i’n addo profiad bythgofiadwy i’r timau a’r cefnogwyr!”