Tokyo yn Japan
Mae dyn a dynes wedi marw ar ôl i ddyn a oedd yn teithio ar drên cyflym Shinkansen yn Tokyo roi ei hun ar dân.

Mae o leia’ naw o deithwyr eraill wedi’u hanafu ar ôl i’r trên lenwi â mwg gan achosi problemau anadlu. Maen nhw’n cael eu trin yn ysbyty’r ddinas.

Yn ôl yr awdurdodau, mae’n debyg fod y dyn wedi arllwys olew drosto’i hun cyn cynnau’r tân.

Arllwys olew

Daeth y trên i stop ar ôl i un o’r teithwyr wasgu’r botwm argyfwng wedi iddo ddod o hyd i berson wedi syrthio ar lawr y cerbyd cynta’.

Digwyddodd hyn tua 11:30 am (amser lleol) ar drên a oedd yn cludo tua 1,000 o bobol ac yn teithio rhwng Odwara ac Osaka.

Does dim digwyddiad mor ddrwg â hyn wedi bod yn hanes y rheilffordd mewn 50 mlynedd.