Mae hunan-fomiwr mewn car wedi targedu cerbydau milwrol NATO ym mhrif ddinas Afghanistan, Kabul.

Mae adroddiadau bod o leiaf 17 o drigolion wedi cael eu hanafu.

Ni chafodd y milwyr NATO oedd yn teithio yn y cerbydau eu hanafu, yn ôl llefarydd.

Fe ddigwyddodd y ffrwydrad ar ffordd brysur yn nwyrain Kabul wrth i bobol deithio i’w gwaith.

Daw wythnos wedi ymosodiad gan y Taliban ar senedd y wlad wrth i wleidyddion gynnal trafodaethau yn yr adeilad.