Ymosodiad brawychol 7/7 yn Llundain
Fe fydd ymarfer yn cael ei gynnal yn Llundain dros y deuddydd nesaf er mwyn profi ymateb y gwasanaethau brys i ymosodiad brawychol posib.
Mae’n ymarfer ar raddfa fawr, mewn sawl lle gwahanol, er mwyn ymarfer y broses wrth wynebu brawychwyr arfog.
Fe fydd y rhan gyntaf yn digwydd heddiw y tu allan i orsaf drenau tanddaearol Aldwych yng nghanol Llundain, ac yn parhau tan brynhawn fory – bron union ddeng mlynedd ar ôl ymosodiad 7/7 yn y ddinas.
Brawychiaeth ar draws y byd
“Yn anffodus, dyw Llundain ddim yn anghyfarwydd â brawychiaeth,” meddai Maxine de Brunner, cyfarwyddwr yr ymarfer.
“Mae’n rhaid inni addasu ein cynlluniau a pharatoi at fygythiadau newydd o hyd yn sgil yr achosion o derfysgaeth sy’n digwydd o gwmpas y byd”, ychwanegodd.
Mae’r cynlluniau wedi bod ar y gweill ers mis Ionawr, ac mae’r ymarfer yn rhan o Raglen Gwrthfrawychiaeth Genedlaethol Llywodraeth Prydain.
Hebdo, Sydney, Tiwnisia
Y dylanwadau mwya’ ar yr ymarfer oedd ymosodiadau Charlie Hebdo ym Mharis fis Ionawr 2015 a chadw gwystlon mewn caffi yn Sydney ym mis Rhagfyr y llynedd.
Ond mae’r digwyddiadau yn Tiwnisia ddiwedd yr wythnos ddiwetha’ – gydag ymosodiad ar ymwelwyr ar draeth – wedi ychwanegu at bwysigrwydd yr ymarfer.
“Fe fydd yr ymarfer yn profi ymateb tactegol y gwasanaethau brys i symud y rhai sydd wedi’u hanafu ac i reoli safle’r drosedd,” ychwanegodd Maxine de Brunner.