Mae Llafur yn debygol o fethu ag ennill mwyafrif yn etholiadau’r Cynulliad y flwyddyn nesaf, yn ôl y pôl piniwn diweddaraf.

Ond mae’r arolwg gan YouGov, y cyntaf yng Nghymru ers yr etholiad cyffredinol, yn awgrymu nad oes llawer o newid wedi bod i gefnogaeth y pleidiau dros y misoedd diwethaf.

Dywedodd 35% o bobl y byddan nhw’n pleidleisio dros Lafur yn eu hetholaeth, gyda 23% yn dewis y Ceidwadwyr ac 20% yn bwriadu pleidleisio dros Blaid Cymru.

Roedd UKIP ar 14%, y Democratiaid Rhyddfrydol ar 5% a’r Gwyrddion ar 3%.

Doedd dim llawer o wahaniaeth pan ofynnwyd i bobl dros bwy fyddan nhw’n pleidleisio ar y rhestr ranbarthol, gyda Llafur ychydig yn is ar 32% ac ‘Eraill’ ar 3%.

UKIP yn cael wyth

Yn ôl yr Athro Roger Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, sydd wedi cydweithio ag ITV a YouGov ar y pôl, yr awgrym yw nad oes llawer wedi newid ym marn pobl Cymru ers mis Mai.

Petai canlyniadau’r pôl yn cael eu hadlewyrchu yn hafal ar draws Cymru dim ond dwy sedd fyddai’n newid dwylo yn y Cynulliad yn 2016 – byddai Llafur yn colli Canol Caerdydd i’r Democratiaid Rhyddfrydol a Llanelli i Blaid Cymru.

Byddai UKIP hefyd yn ennill wyth sedd ranbarthol,  gan adael Llafur gyda 28 sedd, y Ceidwadwyr gyda 12, Plaid Cymru gyda 10, a’r Democratiaid Rhyddfrydol gyda dwy.

“Mae’r pôl yn awgrymu bod Llafur yn parhau yn hynod o agos at fwyafrif o seddi yn y Cynulliad, tra bod disgwyl i lawer o’r seddi rhanbarthol gael eu hennill ar fwyafrifau bychan iawn,” meddai Roger Scully.

“Gyda dros deg mis i fynd tan etholiadau’r Cynulliad, mae popeth dal yn y fantol.”

‘Trin yn ofalus’

Rhybuddiodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur na ddylai pobl gymryd canfyddiadau’r pôl rhy o ddifrif.

“Os yw’r etholiad cyffredinol wedi dysgu unrhyw beth i ni, trin polau yn ofalus iawn oedd hynny,” meddai’r llefarydd.

“Dydyn ni ddim yn cymryd unrhyw beth yn ganiataol cyn etholiadau’r Cynulliad ac fe fyddwn ni’n gweithio’n galed iawn dros y misoedd nesaf i ailgysylltu â’r bobl hynny wnaethon ni ddim darbwyllo ym mis Mai.

“Fodd bynnag, mae’r ffigyrau yma’n awgrymu fod gennym ni seiliau cadarn ar gyfer y flwyddyn nesaf ac er gwaethaf toriadau’r Ceidwadwyr i’r gyllideb, fe fyddwn ni’n gallu ymgyrchu ar record o fod wedi cyflawni ein prif addewidion.”