Ann Clwyd
Mae AS Llafur wedi galw ar yr Ysgrifennydd Cyfiawnder, Michael Gove, i roi pardwn ffurfiol i’r glöwr Dic Penderyn o Aberafan.

Cafodd Dic Penderyn, neu Richard Lewis, ei grogi mwy na 180 o flynyddoedd yn ôl ar ôl ei gael yn euog o drywanu milwr yn ystod Gwrthryfel Merthyr yn 1831. Nawr mae Ann Clwyd AS wedi cyflwyno deiseb yn Nhŷ’r Cyffredin yn gofyn i’r Llywodraeth wyrdroi’r euogfarn yn erbyn Richard Lewis.

Dywedodd Ann Clwyd yn Nhŷ’r Cyffredin ddoe ei bod yn cyflwyno’r ddeiseb ar ran ei hetholwyr yng Nghwm Cynon, ei chyd ASau Llafur Gerald Jones ym Merthyr Tudful a Rhymni a Stephen Kinnock yn Aberafan, a phobl o bob rhan o Gymru.

Pardwn

Clywodd ASau sut yr oedd Dic Penderyn wedi cael ei arestio a’i gyhuddo o drywanu Donald Black gyda bidog ar 3 Mehefin, 1831, yn ystod Gwrthryfel Merthyr.

Wrth ddarllen y ddeiseb, dywedodd Ann Clwyd fod trigolion Merthyr Tudful yn argyhoeddedig ei fod yn ddieuog – ond cafodd ei grogi yng Nghaerdydd ar Awst 13, 1831. Ei eiriau olaf cyn cael ei grogi oedd:  “O Arglwydd, dyma gamwedd.”

Yn 1874, cyfaddefodd Ianto Parker ar ei wely angau mai fo drywanodd Donald Black, tra bod dyn a roddodd dystiolaeth yn erbyn Dic Penderyn wedi cyfaddef dweud celwydd yn y llys yn ddiweddarach.

Dywedodd Ann Clwyd: “Mae teimlad cryf yng Nghymru fod Dic Penderyn wedi cael ei ddienyddio ar gam, y dylai ei euogfarn gael ei wyrdroi ac y dylai dderbyn pardwn.

“Mae’r deisebwyr felly yn gofyn i Dŷ’r Cyffredin annog Michael Gove i roi pardwn i Dic Penderyn.”