Edwina Hart
Bydd Gweinidog yr Economi, Edwina Hart, sydd â chyfrifoldeb am drafnidiaeth, yn cyhoeddi £600 miliwn ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth newydd yn ne Cymru erbyn 2020.

Mae disgwyl i’r system newydd gynnwys rheilffyrdd ysgafn a thramiau, a bydd yn cynnwys 10 o awdurdodau lleol.

Wrth annerch Aelodau’r Cynulliad, mae disgwyl i Edwina Hart hefyd gyhoeddi grŵp cynghori newydd i ddarparu arbenigedd a chyngor i Lywodraeth Cymru.

Bydd y grŵp cynghori yn helpu gyda dewis pa ffurf o gludiant fydd yn cael ei ddefnyddio, a sut fath o gwmni dielw fydd yn gweinyddu’r Metro yn ogystal â Rheilffordd  Cymru a’r Gororau sy’n cael ei ddatganoli o 2018 ymlaen.

Mae disgwyl hefyd i Edwina Hart sôn am Transport for London, sydd â chyfrifoldeb am drenau tanddaearol, bysus ac elfennau o seilwaith rheilffyrdd Llundain, fel model i anelu ato.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £77 miliwn i gam cyntaf y prosiect, sy’n cynnwys gorsaf drenau newydd yng Nglyn Ebwy, tra bydd cyllid yr ail gam yn dod gan Lywodraethau Cymru a’r DU a chyllid yr Undeb Ewropeaidd.