Huw Lewis
Mae disgwyl i’r Gweinidog Addysg, Huw Lewis, gyhoeddi newidiadau mawr i’r cwricwlwm ysgolion yng Nghymru yn ddiweddarach heddiw.

Fe fydd Huw Lewis AC yn ymateb i adolygiad gan gyn brif arolygydd ysgolion Cymru, yr Athro Graham Donaldson, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni.

Roedd yr adroddiad yn cynnwys 68 o argymhellion ar gyfer cwricwlwm newydd i Gymru gan gynnwys rhoi mwy o bwyslais ar yr iaith Gymraeg.

Mae Huw Lewis awgrymu ei fod yn mynd i gyflwyno newidiadau i’r ffordd mae disgyblion yn caffael y Gymraeg.

Ar y pryd, disgrifiodd Llywodraeth Cymru ganfyddiadau’r adroddiad fel rhai “radical a phellgyrhaeddol”.

Cyn i Huw Lewis wneud ei gyhoeddiad, mae rhai sefydliadau wedi galw am roi pwyslais ar rai agweddau o’r diwygiadau – fel addysg dinasyddiaeth ac addysg Gymraeg i bob plentyn.

Addysg Gymraeg

Cyn y cyhoeddiad, mae cyn Aelod Seneddol blaenllaw’r blaid Lafur wedi cefnogi’r galwadau i sicrhau addysg Gymraeg i bob plentyn.

Daw’r newyddion wedi i nifer fawr o arbenigwyr addysg a mudiadau alw ar y Llywodraeth i sicrhau ei bod yn gweithredu argymhellion yr Athro Sioned Davies a symud at addysg Gymraeg i bob plentyn.

Nawr, mae’r cyn AS Llafur dros Aberafan Hywel Francis wedi datgan ei gefnogaeth i alwad gan y grŵp pwyso Cymdeithas yr Iaith Gymraeg sydd yn galw ar Lywodraeth Cymru i “ddal ar y cyfle” i ddatblygu cwricwlwm newydd a fydd yn sicrhau fod pob disgybl yn datblygu’r sgil addysgol hanfodol o fedru cyfathrebu a gweithio yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg.

Dywedodd Hywel Francis: “Mae cyfle cyflawni hyn trwy weithredu argymhellion adroddiad yr Athro Sioned Davies, y dylid terfynu cysyniad dilornus ‘Cymraeg Ail Iaith’ a sefydlu yn ei le gontinwwm dysgu ‘Cymraeg’ i bawb.

“Byddai pob disgybl yn derbyn peth o’i addysg trwy gyfrwng y Gymraeg fel y daw i fedru defnyddio’r Gymraeg yn ymarferol … Ni ddylai unrhyw ddisgybl fod tan anfantais ddiwylliannol nac economaidd o’i amddifadu o’r gallu i gyfathrebu’n Gymraeg.”

Pleidlais yn 16?

Roedd yr adolygiad hefyd yn dadlau y dylai addysg wleidyddol neu “ddinasyddiaeth” fod yn rhan allweddol o’r cwricwlwm – ac fe all hynny gynnwys cyflwyno pleidleisiau i bobl ifanc 16 mlwydd oed.
Ond mae’r Gymdeithas Diwygio Etholiadol (ERS) wedi mynegi pryder am y cynigion oherwydd y gallai ymdrechion i wella addysg dinasyddiaeth gael eu hanghofio wrth i ddiwygiadau ehangach gael eu rhoi ar waith.

Gyda phleidleisiau yn 16 oed ar y gorwel yng Nghymru, mae ERS Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella safonau mewn addysg dinasyddiaeth.

Dywedodd Steve Brooks, cyfarwyddwr ERS Cymru: “Mae addysg wleidyddol well a phleidleisiau yn 16 oed yn ddwy ochr o’r un geiniog. Ers talwm, roeddem yn dysgu am wleidyddiaeth gan ein rhieni, ond mae’r adeg honno wedi hen fynd. Mae ysgolion gyda rôl gynyddol ganolog i’w chwarae wrth roi’r sgiliau a’r hyder pobl ifanc i fod yn aelodau actif yn ein cymdeithas.

“Ni all athrawon wneud y newidiadau yma ar eu pen eu hunain. Does dim strategaeth gynhwysfawr o addysgu dinasyddiaeth ac yn aml mae’n cael ei wasgu allan o galendr yr ysgol pan fydd materion eraill, fel addysg gyffuriau, yn dod yn broblem fwy uniongyrchol i ymateb iddynt. Er bod rhai ysgolion yng Nghymru yn gwneud gwaith rhagorol, mae llawer o ysgolion yn ei chael hi’n anodd ymdopi.”

Mae disgwyl i’r Gweinidog Addysg Huw Lewis wneud ei ddatganiad y prynhawn ma.