Arglwydd Janner
Fe fydd yr Arglwydd Janner bellach yn cael ei erlyn am achosion o gam-drin plant yn rhywiol, yn ôl y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus.

Fe gadarnhaodd Alison Saunders heddiw y byddai’r gwleidydd yn wynebu 22 o gyhuddiadau ynglŷn ag achosion hanesyddol o gam-drin sydd yn dyddio nôl i’r 1960au, 70au ac 80au.

Roedd Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi dweud ym mis Ebrill na fyddai’n cyhuddo’r dyn 86 oed, ond yna ym mis Mai cafodd y penderfyniad dadleuol hwnnw ei adolygu.

Mae’r cyn-AS Llafur yn dioddef o Alzheimer’s difrifol, ond fe fydd y cyhuddiadau yn ei erbyn nawr yn cael ei glywed yn y llys.

Fodd bynnag, gan nad yw’r Arglwydd Janner yn ddigon iach i bledio yn yr achos mae’n debygol mai ‘rhyddhad diamod’ fydd canlyniad yr achos, rhywbeth sydd ddim yn gosb nac yn ddedfryd.

Roedd yr Arglwydd Janner yn Aelod Seneddol yn etholaeth Gorllewin Caerlŷr am 27 mlynedd.

Mae ei deulu’n gwadu’r holl honiadau o gam-drin plant yn ei erbyn.