Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi enw dyn 82 oed fu farw mewn damwain ffordd ger Brynbuga ddydd Iau diwethaf.
Roedd John Shermer Llewellyn, o ardal Caerdydd, yn teithio mewn car Renault Captor gyda dau ddyn arall pan fu mewn damwain ar yr A449 tua 3.36 ar brynhawn dydd Iau, 25 Mehefin.
Cafodd gyrrwr y car, dyn 80 oed, ei gludo i Ysbyty Nevill Hall ond mae bellach wedi gadael. Mae dyn arall 80 oed, a oedd yn teithio yn y car, yn parhau yn Ysbyty Brenhinol Gwent lle mae mewn cyflwr sefydlog.
Bu farw John Shermer Llewellyn yn y fan a’r lle.
Mae Heddlu Gwent yn parhau i ymchwilio i’r digwyddiad.