Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi buddsoddiad gwerth £10m i wella gwasanaethau’r GIG ar gyfer cyflyrau iechyd difrifol fel canser, diabetes, clefyd y galon a strôc.

Bydd y buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru hefyd yn gwella gwasanaethau’r afu, gofal critigol, niwrolegol, anadlol, gofal diwedd oes ac iechyd meddwl ledled Cymru.

‘Cadw ffocws’

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething:   “Mae’r cynlluniau hyn yn gwneud gwahaniaeth go iawn i bobl yng Nghymru. Mae mwy o bobl yn goroesi canser nag erioed o’r blaen, er gwaetha’r ffaith bod mwy o achosion – mae 96% o bobl â chanser yn dweud bod eu gofal yn rhagorol, yn dda iawn neu’n dda.

“Rydym yn gwneud cynnydd tebyg gyda chynlluniau cyflawni eraill – mae’r niferoedd sy’n goroesi clefyd y galon a strôc wedi cynyddu; mae nifer y bobl sy’n marw o strôc wedi disgyn o 1,000 y flwyddyn, ac mae nifer y derbyniadau brys i’r ysbyty oherwydd strôc, clefyd y galon a diabetes hefyd yn disgyn, sy’n dangos bod y cyflyrau’n cael eu rheoli’n well yn y gymuned.

“Er ein bod wedi gweld cynnydd da hyd yma, ac er bod ein Gwasanaeth Iechyd yn parhau i ddarparu gofal iechyd rhagorol, rydw i am i’r gwasanaeth iechyd ddefnyddio’r cyllid hwn i gadw ffocws ar y cynlluniau allweddol hyn a chyflwyno hyd yn oed mwy o welliannau i ofal a chanlyniadau cleifion.”

Canser

Mae gan bob cyflwr ei gynllun cyflawni ei hun, sydd wedi cael ei lunio gan glinigwyr, cleifion ac eiriolwyr dros ofal rhagorol.

Maen nhw’n amlinellu’r camau gweithredu sy’n cael eu cymryd i wella canlyniadau a phrofiad cleifion.

Caiff £1m ei fuddsoddi yn y cynllun cyflawni ar gyfer canser i gefnogi prosiectau i wella canlyniadau i bobl â chanser yr ysgyfaint, gan gynnwys cynyddu ymwybyddiaeth o’r clefyd ymhlith y cyhoedd a rhaglen “cyn-sefydlu” i baratoi pobl ar gyfer llawdriniaeth, i helpu i gael y manteision mwyaf o’u triniaeth.

Bydd llwybrau canser newydd hefyd yn cael eu datblygu, gan wella’r ffordd y caiff gwasanaethau eu monitro a bydd rhagor o arolygon am brofiad cleifion yn cael eu cynnal.

Clefyd y siwgr

Bydd £1m ar gyfer clefyd y siwgr yn cyfrannu at wella’r ffordd y mae pobl yn rheoli’r cyflwr eu hunain drwy raglenni addysg sydd wedi’u strwythuro.

Caiff cyllid hefyd ei ddefnyddio i wella safonau gofal a recriwtio staff newydd i helpu i bontio rhwng gwasanaethau plant ac oedolion ac ar gyfer podiatreg clinigol gan fod gofal traed da yn hanfodol i bobl â diabetes.

Bydd y grŵp gweithredu ar gyfer clefyd y siwgr hefyd yn buddsoddi mewn nyrsys diabetes arbenigol yn y gymuned.

Mae buddsoddiadau eraill yn cynnwys:

  • Bydd y grŵp gweithredu anadlol, sy’n cefnogi’r cynllun cyflawni anadlol, yn buddsoddi £1m i leihau’r amrywiad sy’n bodoli gyda phresgripsiynau; cynyddu arbenigedd yn y defnydd o sbirometreg, ac i sicrhau bod pawb sy’n cael diagnosis newydd o asthma neu glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) yn cael cynllun gofal hunan-reoli ysgrifenedig i’w helpu i reoli eu cyflwr yn llwyddiannus;
  • Bydd yr £1m ar gyfer gofal diwedd oes yn canolbwyntio ar hosbisau yn y cartref. Er bod y gwasanaeth wedi’i hen ddatblygu mewn rhai ardaloedd o Gymru, nid yw ar gael ar lefel gyson ar hyd y wlad. Bydd y cyllid yn sicrhau bod lefel uwch o gymorth clinigol yn y gymuned i helpu pobl i farw yn y lle maen nhw’n ei ddewis;
  • Bydd £1.2m o’r £2m ar gyfer gofal niwrolegol a strôc yn cael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau adsefydlu niwrolegol, gan helpu i sicrhau bod pobl yn aros mor annibynnol â phosibl;
  • Bydd yr £1m sydd wedi’i ddyrannu i’r cynllun cyflawni ar gyfer iechyd meddwl yn rhan o becyn gwerth £3m i wella mynediad at therapïau seicolegol yn seiliedig ar dystiolaeth a thriniaethau siarad ag oedolion, plant a phobl ifanc, fel y mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Mark Drakeford eisoes wedi cyhoeddi.