Y damwain bws yng Ngwlad Belg
Mae’r heddlu wedi cyhoeddi enw gyrrwr gafodd ei ladd ar ôl i fws, oedd yn cludo 34 o blant ysgol o Brydain, fod mewn damwain yng Ngwlad Belg.

James “Geordie” Chance oedd yr unig un i gael ei ladd yn y ddamwain yn Middelkerke yng ngorllewin Fflandrys.

Cafodd bachgen 13 oed anaf difrifol i’w ben.

Credir bod James Chance, o Lisburn yn Sir Antrim yn eistedd wrth ymyl gyrrwr y bws pan fu mewn gwrthdrawiad a phont draffordd.

Mae’r plant yn ddisgyblion yn Ysgol Brentwood yn Essex.