Pobl yn ciwio am eu harian tu allan i fanc yn Athen
Mae pryder am ddyfodol Gwlad Groeg wrth i’r banciau a’r gyfnewidfa stoc barhau ynghau heddiw yn dilyn methiant ymdrechion i ddatrys problemau ariannol y wlad.

Mae Banc Canolog Ewrop wed gwrthod rhoi pecyn ariannol brys pellach i Wlad Groeg ddiwrnod ar ôl i weinidogion cyllid parth yr ewro wrthod apêl i ymestyn y dyddiad ar gyfer ad-dalu ei dyledion.

Mae llywodraeth Gwlad Groeg wedi dweud y bydd y banciau ar gau am weddill yr wythnos ac mae’r Swyddfa Dramor wedi rhybuddio ymwelwyr ei fod yn bosib na fyddan nhw’n gallu codi arian o’r banciau.

Mae twristiaid sy’n teithio i Wlad Groeg dros yr haf yn cael eu cynghori i fynd a digon o arian parod gyda nhw ar gyfer y gwyliau.

Roedd nifer o bobl y wlad wedi methu tynnu arian o’r banciau, oriau’n unig ar ôl y cyhoeddiad y bydd refferendwm yn cael ei gynnal ynglŷn â chynlluniau llymder sydd wedi cael eu hargymell gan gredydwyr.