Trudy Jones
Mae disgwyl i nifer y bobl o Brydain a gafodd eu lladd gan frawychwyr ar draeth yn Tunisia ddyblu i o leiaf 30, yn ôl ffynonellau.

Roedd yr Ysgrifennydd Tramor  Philip Hammond wedi rhybuddio ei bod yn debygol iawn y bydd “nifer sylweddol” o’r rhai gafodd eu lladd yn Brydeinwyr, ar ol iddyn nhw gael eu hadnabod yn swyddogol.

Mae David Cameron wedi rhoi addewid na fydd y DU yn ildio i’r brawychwyr ac y bydd y DU yn “sefyll i fyny am ein ffordd o fyw.”

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog wneud datganiad yn y Senedd heddiw ynglŷn â’r ymosodiad ac yn cynnal cyfarfod brys o Cobra unwaith eto bore ma.

Mae’r Ysgrifennydd Tramor Theresa May wedi teithio i Tunisia i ymweld a’r safle lle cafodd yr ymwelwyr eu lladd.

Cafodd cyfanswm o 38 o bobl eu lladd ar ol i ddyn arfog saethu pobl ar draeth yn Sousse ddydd Gwener, gyda’r Swyddfa Dramor eisoes wedi cadarnhau bod 15 ohonyn nhw yn dod o Brydain.

Mae tri pherson o Iwerddon hefyd ymhlith y rhai gafodd eu lladd.

Dywedodd Philip Hammond bod oedi wedi bod cyn i nifer gael eu hadnabod yn swyddogol gan eu bod “wedi’u gwisgo ar gyfer y traeth” ac nad oedd ganddyn nhw ddogfennau ffurfiol i’w hadnabod ar y pryd.

Mae’r Frenhines wedi anfon ei chydymdeimlad at deuluoedd y rhai gafodd eu lladd neu eu hanafu yn y gyflafan.

Teyrnged

Ymhlith y rhai gafodd eu lladd roedd Trudy Jones, 51, o’r Coed Duon yng Ngwent a oedd ar ei gwyliau yn Tunisia.

Roedd Trudy Jones yn gweithio mewn cartref gofal ac yn fam i bedwar o blant.

Mewn teyrnged, dywedodd ei theulu: “Doedd ein mam, o bawb, ddim yn haeddu hyn – y fath berson gofalgar oedd yn rhoi pawb arall yn gyntaf.

“Bob amser yn barod i helpu eraill, roedd hi’n caru pawb o’i chwmpas, gan gynnwys yr holl bobol roedd hi’n gofalu amdanyn nhw yn y gwaith.

“Bydd cynifer o bobol yn gweld ei heisiau hi.

“Hi oedd craig ein teulu ni ac yn ein cadw ni i gyd i fynd.

“Does gan yr un ohonon ni ddim syniad sut y byddwn ni’n ymdopi hebddi.”

Roedd Matthew James, 30, o Drehafod ger Pontypridd, yn un o’r rhai gafodd ei anafu yn yr ymosodiad. Fe ddefnyddiodd ei gorff i amddiffyn ei ddyweddi Saera Wilson, 26, yn ystod yr ymosodiad. Er iddo gael ei saethu fe lwyddodd i oroesi.

Targedu ymwelwyr

Roedd y dyn arfog, Seifeddine Rezgui, wedi targedu ymwelwyr ar draeth y RIU Imperial Marhaba a’r RIU Bellevue. Cafodd ei saethu’n farw gan yr heddlu. Credir bod ganddo gysylltiadau â’r Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Dywed ymchwilwyr eu bod yn chwilio am o leiaf un person arall mewn cysylltiad â’r ymosodiad, ac yn credu bod Rezgui wedi cael cymorth.

Mae miloedd o Brydeinwyr wedi bod yn dychwelyd i’r DU ar ol dod a’u gwyliau i ben yn gynnar.  Dywedodd Scotland Yard bod mwy na 600 o swyddogion yn cymryd rhan yn yr ymchwiliad gwrth-frawychiaeth mwyaf ers ymosodiad bom 7/7 yn Llundain.