Mae disgwyl i filiynau o bobol wylio Jeremy Clarkson, Richard Hammond a James May yn cyflwyno ‘Top Gear’ am y tro olaf nos Sul.
Y cyflwynydd radio poblogaidd Chris Evans fydd yn llywio’r gyfres nesaf ar y BBC yn lle Clarkson, wedi iddo gael ei ddiarddel am daro’r cynhyrchydd Oisin Tymon mewn gwesty yn dilyn ffrae tros fwyd.
Dywedodd y cyn-brif gynhyrchydd Andy Wilman fod ffilmio’r golygfeydd olaf yn “drist iawn”.
Dywedodd wrth gylchgrawn y Radio Times: “Fe gawson ni dipyn o hwyl yn y stiwdio, ond roedd gyda ni waith i’w wneud ac fe wnaethon ni hynny, yn broffesiynol, a heb ddagrau na stranc.”
Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu ar BBC2 nos Sul am 8 o’r gloch.