Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi dweud ei bod hi’n bosib fod rhai pobol o Gymru ymhlith y 38 gafodd eu lladd yn Tunisia.

Roedd o leiaf 15 o’r 38 a gafodd eu lladd ar draeth yn Sousse yn dod o wledydd Prydain.

Ond dydy eu henwau ddim wedi cael eu cyhoeddi’n swyddogol gan y Swyddfa Dramor hyd yma.

Mae disgwyl i awyrennau ddod â thwristiaid yn ôl i faes awyr Caerdydd heddiw.

Dywedodd Carwyn Jones wrth y BBC: “Fe fu’n sioc i glywed manylion yr ymosodiad erchyll yn Tunisia.

“Mae fy meddyliau gyda phawb sydd wedi cael eu heffeithio gan y weithred ddi-synnwyr a threisgar hon.”

Ychwanegodd fod “rhaid paratoi am y posibilrwydd” y gallai rhai o’r 38 fod o Gymru.

“Mae Llywodraeth Cymru’n barod i gynnig unrhyw gymorth y gall wrth i ni ymdrin ag effeithiau’r drasiedi hon.”

Saethodd Seifeddine Rezgui, 23, at dwristiaid ar y traeth ddydd Gwener.

Mae lle i gredu fod ganddo gysylltiadau â’r Wladwriaeth Islamaidd.

Roedd ffrwydradau mewn gwestai cyfagos hefyd, cyn i’r heddlu ei saethu’n farw.