Mae lefel tlodi plant ar ei isaf ers yr 1980au, yn ôl ffigyrau newydd sydd wedi cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth San Steffan heddiw.
Dywedodd yr Adran Waith a Phensiynau bod nifer y plant oedd yn byw mewn tlodi cymharol yn 2013/14 yn 2.3miliwn, lefel sydd wedi aros yn gyson yn y blynyddoedd diwethaf.
Roedd pryder y gallai’r ffigyrau diweddaraf ddangos cynnydd i 2.5miliwn, ac mae sôn hefyd bod y Llywodraeth yn bwriadu newid y ffordd mae tlodi plant yn cael ei fesur.
Yn ôl y diffiniad presennol, mae plentyn yn byw mewn tlodi os ydyn nhw’n dod o gartref ble mae’r incwm yn llai na 60% o’r cyfartaledd cenedlaethol.
‘Gwaith yw’r ateb’
Yn ôl y Gweinidog Gwaith a Phensiynau, Iain Duncan Smith, fe fydd toriadau presennol y llywodraeth i’r system les yn helpu, nid gwaethygu, sefyllfa’r rheiny sydd yn byw mewn tlodi.
“Mae’r ystadegau hyn yn dangos fod y canran o unigolion ar incwm isel ar ei lefel isaf ers canol yr 1980au,” meddai Iain Duncan Smith.
“Rydyn ni’n gwybod mai gwaith yw’r ffordd orau allan o dlodi, gyda phlant o deuluoedd di-waith tair gwaith yn fwy tebygol o fod mewn tlodi na’r rheiny o deuluoedd sy’n gweithio.
“Dyna pam, fel rhan o’n cynllun economaidd hir dymor, fod ein diwygiadau lles yn canolbwyntio ar wneud i waith dalu’i ffordd, tra bod ein diwygiadau o’r system dreth yn gadael i bobl gadw mwy o’r arian maen nhw’n ei hennill.”
‘Angen helpu pob un’
Yn ôl yr Adran Waith a Phensiynau roedd incwm cyfartalog cartrefi cyn costau tai yn £453 yr wythnos yn 2013/14, yr un lefel a 2012/13.
Bellach mae 17% o blant yn byw mewn cartrefi gydag incwm gymharol isel, y lefel isaf ers yr 1980au.
Fe ddisgynnodd y canran o blant oedd yn byw mewn tlodi rhwng 2007/8 a 2010/11, ac maen nhw wedi bod yn weddol sefydlog ers hynny, meddai’r adran.
‘Adlewyrchiad o fethiant’
Ond yn ôl Javed Khan, prif weithredwr elusen plant Barnado’s, mae angen gwneud mwy.
“Mae pob plentyn sy’n byw mewn tlodi yn blentyn sy’n cael eu gadael i lawr. Mae tlodi plant yn adlewyrchiad o fethiant, fel cymdeithas, i amddiffyn ein teuluoedd mwyaf bregus,” meddai Javed Khan.
“Mae tlodi yn amharu ar gyfleoedd bywyd ein plant, yn eu gwneud nhw’n fwy tebygol o fod yn sâl, gwneud yn waeth yn yr ysgol a bod yn ddi-waith yn y dyfodol.
“Mae cynlluniau’r llywodraeth i dorri mwy o incwm teuluoedd sydd yn ei chael hi’n anodd drwy newid credydau treth yn achosi pryder mawr.”