Nigel a Stacey Henderson
Dywed Heddlu Gwent sy’n ymchwilio i farwolaeth cwpl gafodd eu canfod mewn tŷ yng Nghas-gwent eu bod bellach yn trin marwolaeth y wraig fel un amheus.

Cafodd cyrff Nigel Henderson, 52, a’i wraig Stacey Henderson, 35, eu darganfod mewn tŷ yn Ruffets Close yn y dref toc cyn 12yp ddydd Gwener, 19 Mehefin.

Mae’r heddlu yn parhau i gynnal eu hymchwiliad a bellach yn trin marwolaeth Stacey Henderson fel un amheus.

Ond dyw marwolaeth Nigel Henderson ddim yn cael ei drin fe un amheus gan yr heddlu, sydd wedi dweud nad ydyn nhw’n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad.

Yn ôl adroddiadau fe briododd Nigel a Stacey Henderson yn 2012, ond roedden nhw wedi bod yn byw ar wahân. Mae’n debyg bod Nigel Henderson wedi bod yn ddifrifol wael.

Mae teuluoedd y ddau fu farw yn derbyn cymorth gan swyddogion arbenigol , ac mae disgwyl i gwest i’r marwolaethau gael ei agor heddiw.