Ed Miliband wedi canlyniad trychinebus Llafur yn yr etholiad cyffredinol
Mae un o gyn-ymgynghorwyr Ed Miliband wedi dweud bod trafodaethau eisoes wedi cael eu cynnal er mwyn sefydlu ‘Plaid Lafur Lloegr’.

Yn ôl Jon Cruddas, sydd yn Aelod Seneddol dros Dagenham a Rainham, fe allai’r grŵp newydd gael ei sefydlu o fewn y mis nesaf.

Ychwanegodd yr AS y byddai’n gweithio mewn modd tebyg i’r Blaid Lafur yng Nghymru a’r Alban, a bod trafodaethau ynglŷn â’r syniad eisoes wedi dechrau yng nghynhadledd y blaid y llynedd.

Ond fe ddywedodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur fod “dim cynlluniau ar hyn o bryd i sefydlu Plaid Lafur Lloegr”.

‘Rhan bwysig’

Mewn ymgais i ddelio â realiti gwleidyddol datganoli ac ymateb i alw cynyddol am gynrychiolaeth wleidyddol i Loegr, mae’n debyg bod rhai o aelodau’r Blaid Lafur yn awyddus i fwrw ymlaen â’r cynlluniau.

“Ers yr etholiad, mae’r sgwrs yna wedi ailgychwyn, “ meddai Jon Cruddas wrth yr IPPR, gan gyfeirio at y cyfarfod yng nghynhadledd y blaid gydag arweinydd cyngor Manceinion Syr Richard Leese a’r cyn-weinidog Cabinet John Denham ymysg eraill.

“Mae grŵp o bobl sydd yn mynd i geisio gwthio hynny ymlaen dros y mis nesaf. Dw i’n meddwl y bydd e’n rhan fawr newydd o strwythur Llafur.

“O ran a ddylai gael ei roi yn y rheolau, fel Plaid Lafur Cymru a’r Alban, mae’n edrych i fi fel mai dyna be ddylen ni wneud yn y diwedd.”

‘Achub’ y blaid

Roedd Jon Cruddas yn aelod blaenllaw o’r tîm a ysgrifennodd maniffesto’r Blaid Lafur ar gyfer yr etholiad eleni, ac ar hyn o bryd mae’n arwain adolygiad annibynnol i weld ble aeth o’i le â’u hymgyrch.

Dywedodd yr Aelod Seneddol fod aelod blaenllaw o’r blaid wedi rhybuddio mai dim ond “ychydig o flynyddoedd sydd i’w gael i achub” y Blaid Lafur.

Awgrymodd fod y blaid wedi rhoi gormod o bwyslais ar geisio denu etholwyr dosbarth canol pan oedd tri chwarter y cefnogwyr roedden nhw wedi ei golli ers 1997 yn rhai dosbarth gweithiol.

Ychwanegodd Jon Cruddas fod Llafur wedi “colli bobman i bawb”, gan awgrymu nad oedden nhw wedi rhoi digon o sylw i’r polau oedd yn dangos eu bod nhw ar ei hôl hi ar yr economi, ac y gallai’r blaid ddysgu gwersi o’r ffordd y gwnaeth Tony Blair ffurfio’r ddadl wleidyddol cyn 1997.