Marco Loughran
Mae’r nofiwr Marco Loughran wedi cyfaddef ei fod wedi cael “sioc” ar ôl ymosodiad “llwfr” arno fe a’i gariad pan oedden nhw yn eu car yn Nenmarc.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ar y Sul, wedi i Loughran a Jeannette Ottesen, sydd yn bencampwraig nofio’r byd i Ddenmarc, gael eu hunain mewn ffrae â gyrrwr arall.
Bu’n rhaid i’r Cymro fynd i’r ysbyty ar ôl dioddef anafiadau i’w ben, dannedd, clust ac ysgwydd, tra bod Ottesen wedi torri bys.
“Mae Denmarc yn le hyfryd i fyw ac mae pawb wedi cael sioc ar ôl beth ddigwyddodd,” meddai Marco Loughran wrth PA Sport.
‘Dyn wedi gwylltio’
Yn ôl Marco Loughran roedd gyrrwr fan oedd y tu ôl i’w gar e a’i gariad wedi dechrau gwylltio pan oedd Jeannette Ottesen yn rhy araf i symud ei char pan newidiodd y goleuadau traffig i wyrdd.
Yna fe ddaeth a’i fan rownd a stopio o flaen car y cwpl, cyn dod allan a gweiddi ar Ottesen.
“Fe ddaeth e lan at y car a dechrau gweiddi ar fy nghariad i ddod allan, ei herio hi a’i bygwth hi, ond fe ddes i allan o’r car a dweud nad oedden ni eisiau unrhyw drwbl,” meddai Loughran.
Fe giciodd y dyn Loughran wedyn cyn i’r Cymro ei daro nôl, ond yna ar ôl i Loughran ac Ottesen fynd yn ôl i’w car fe ddaeth yr ymosodwr yn ôl a dechrau taro Loughran eto drwy’r ffenestr agored.
Yn y diwedd fe lwyddodd Marco Loughran i ddod allan o’r car a tharo’r ymosodwr unwaith eto, ond wrth i bobl ar ochr y stryd ddal y nofiwr yn ôl fe lwyddodd yr ymosodwr i gerdded i ffwrdd.
‘Ymosodiad llwfr’
Mae’r ymosodiad ddydd Sul wedi taro’r penawdau ar hyd a lled Denmarc, gan fod Jeanette Ottesen yn bwriadu amddiffyn ei theitl nofio pili pala 50m ym Mhencampwriaethau’r Byd yn Kazan fis nesaf.
Fe fydd y cwpl yn ymddangos ar sioe boblogaidd yn Nenmarc yr wythnos hon i sôn am y digwyddiad a gofyn am fwy o wybodaeth yn ymwneud â’r ymosodwr.
“Roedd e’n ymosodiad llwfr a dw i jyst yn ddiolchgar bod y saith neu wyth ergyd ges i ddim yn ergydion i’r pen achos dydw i ddim eisiau meddwl am hynny,” meddai Marco Loughran.
“Rydw i’n gwella nawr ond mae Jeanette wedi ypsetio’n lan am y cwbl.”
Mae Loughran, sydd wedi cystadlu yn y dull nofio cefn dros Gymru yng Ngemau’r Gymanwlad 2010 a 2014 a dros Brydain yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012, wrthi’n paratoi ar hyn o bryd ar gyfer y Gemau Olympaidd yn Rio de Janeiro flwyddyn nesaf.