Mae batiwr Awstralia, Chris Rogers wedi dweud ei fod yn difaru ceisio gwerthu pecynnau lletygarwch ar gyfer yr ail brawf yng Nghyfres y Lludw yn Lord’s.

Roedd cwmni Inside Edge Experience, sef cwmni Rogers, yn cynnig “cyfle unigryw ac ecsgliwsif” ar eu gwefan i fynychu’r gêm yn Llundain – ond mae’r holl docynnau wedi’u gwerthu eisoes.

Roedd awgrym fod Rogers a’i bartner busnes Tom Scollay yn ceisio gwneud elw anfoesol i’w cwmni preifat eu hunain.

Mae hysbysebion ar gyfer y tocynnau wedi cael eu dileu oddi ar dudalen LinkedIn y cwmni, ac mae tudalen Facebook y cwmni hefyd wedi cael ei dileu.

Mae Swydd Middlesex wedi diddymu hawl Rogers a Scollay i gael tocynnau ar gyfer yr ornest.

Ond maen nhw’n dweud mai “camddealltwriaeth” oedd wedi arwain at eu penderfyniad, ynghyd â “gormod o frwdfrydedd a naifrwydd”.

Difaru

Dywedodd Chris Rogers heddiw: “Fe es i o gwmpas y peth yn y ffordd gywir – neu felly ro’n i’n meddwl – ond fel mae’n digwydd, mae’n ymddangos nad dyna’r ffordd gywir, am wn i.

“Dw i fwy na thebyg wedi dysgu fy ngwers, ond doedd dim bwriad i dwyllo na dim byd felly.

“Dw i’n edrych ar y peth ychydig yn siomedig am y ffordd wnaeth pethau droi allan, ond ro’n i’n meddwl ’mod i’n agored ac yn onest am bopeth wnes i.

“Naif yw’r gair sydd wedi’i grybwyll tipyn, ond mae’n rhyfedd oherwydd doedd neb wnes i siarad gyda nhw a dweud beth o’n i’n mynd i’w wneud, wedi awgrymu awgrymu ei wneud e mewn ffordd wahanol, felly do’n i ddim wedi sylweddoli bod rhaid i fi fynd trwy’r ECB.

“Do’n i ddim yn credu ’mod i’n gwneud unrhyw beth o’i le.”

Bydd Rogers a charfan Awstralia yn dechrau’r prawf cyntaf yn erbyn Lloegr yn y Swalec yng Nghaerdydd ar Orffennaf 8.