Bydd tîm dan 21 Everton yn teithio i Gymru i baratoi ar gyfer y tymor pêl-droed newydd.
Byddan nhw’n herio Wrecsam ar y Cae Ras ar Orffennaf 11 (3yp) cyn mynd i Stadiwm Chwaraeon Corbett i herio’r Rhyl ar Orffennaf 22 (7.45yh).
Mae tîm David Unsworth wedi teithio i Obertraun yn Awstria am wythnos i ymarfer eu sgiliau.
Ar ddechrau’r daith, dywedodd Unsworth: “Dw i wedi bod yma sawl gwaith fel chwaraewr a hyfforddwr ac mae’n safle gwych.
“Mae’n safle perffaith i ni fwrw iddi.
“Mae’n rhoi sylfaen i’r chwaraewyr ddarganfod eu ffitrwydd a bwrw iddi unwaith eto.
“Mae’r amgylchfyd yma’n ein galluogi ni i ddisgyn o’r gwely a hyfforddi’r chwaraewyr ddwywaith, dair gwaith, bedair gwaith bob dydd.
“Mae’n fraint cael bod yma.
“Dw i’n credu bod yr hogia’n disgwyl amser caled wrth ddychwelyd ac mi oedd hi felly.
“Ond ’dan ni ddim am wneud esgusodion am hynny, gan ein bod ni am eu rhoi nhw ar ben ffordd a’u cael nhw i lefel lle maen nhw’n well nag unrhyw un maen nhw’n dod ar ei draws.
“Mi gawson ni sesiwn gyntaf ddwys iawn ac mae’r chwaraewyr wedi bod yn wych. Maen nhw i gyd yn athletwyr penigamp sy’n ysu am gael bod yn llwyddiannus.”