Mae’r Elyrch wedi teithio’n bell dros y degawd diwethaf, ond fe deithion nhw’n bellach nag erioed o’r blaen neithiwr wrth i hynt a helynt y clwb gyrraedd y sgrîn fawr yn Efrog Newydd.
Cafodd y ffilm ‘Jack to a King’, sy’n adrodd hanes eu taith o’r Drydedd Adran i’r Uwch Gynghrair, ei dangos yn ystod gŵyl ffilm Kicking and Screening Soccer Film Festival.
Mae amseru’r ŵyl yn berffaith ar gyfer hyrwyddo cyhoeddi’r ffilm ar iTunes ac ar DVD, fis yn unig wedi i’r ffilm gael ei dangos i gynulleidfa o 450 yn Portland yn yr Unol Daleithiau.
Mae is-gadeirydd y clwb Leigh Dineen, y cyn-gyfarwyddwr David Morgan a chyfarwyddwr y ffilm, Mal Pope wedi teithio i’r Unol Daleithiau i hyrwyddo’r ffilm.
‘O garpiau i gyfoeth’
Mewn datganiad ar wefan yr Elyrch, dywedodd Mal Pope: “Fe gafodd ‘Jack to a King’ ymateb gwych pan gafodd ei dangos yn Portland ychydig wythnosau’n ôl.
“Dw i wrth fy modd y bydd yn cael ei dangos i gefnogwyr pêl-droed ar arfordir dwyreiniol America.
“Mae pobol yn yr Unol Daleithiau wrth eu boddau gyda stori am y cystadleuydd gwannaf a does dim stori gwell am fynd o garpiau i gyfoeth na’r hyn mae Abertawe wedi’i gyflawni yn ystod y 12 mlynedd diwethaf.”
Ar ôl bod yn Efrog Newydd, bydd y ffilm yn teithio i lysgenhadaeth Prydain yn y brifddinas Washington DC.
Ychwanegodd Leigh Dineen: “Yn dilyn yr ymateb gafodd y ffilm pan gysyllton ni’n fyw â Portland ar yr arfordir gorllewinol, alla i ddim aros i gefnogwyr chwaraeon yn Efrog Newydd a Washington weld y ffilm.
“Mae’n stori wir sydd wir yn cydio yn nychymyg pobol.
“Dyma gyfle gwych i gefnogwyr Americanaidd weld stori Abertawe o garpiau i gyfoeth ar y sgrîn fawr.”