Mae’r nifer uchaf erioed o bobl yng Nghymru a Lloegr wedi cael eu herlyn am droseddau treisiol yn erbyn merched, yn ôl y ffigurau diweddaraf.

Mae cynnydd wedi bod yn nifer yr erlyniadau llwyddiannus am droseddau rhyw, cam-drin plant yn rhywiol, ac achosion o drais yn y cartref, tra bod mwy o bobl nag erioed wedi cael eu cyhuddo o dreisio, yn ôl ffigurau Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) ar gyfer 2014-15.

Cafodd cyfanswm o 107,104 o erlyniadau mewn achosion yn ymwneud a thrais yn erbyn merched – cynnydd o 18.3% ers y flwyddyn flaenorol.