Rhai o'r ymgyrchwyr tu allan i Dy'r Cyffredin
Mae’r heddlu wedi gwrthdaro â phrotestwyr tros hawliau pobol anabl oedd wedi ceisio cael mynediad yn anghyfreithlon i Dŷ’r Cyffredin heddiw.

Ceisiodd y protestwyr – oedd yn cynnwys nifer o bobol mewn cadeiriau olwyn – gael mynediad i’r adeilad yn ystod Sesiwn Holi’r Prif Weinidog.

Cafodd un ddynes ei chludo oddi ar y safle gan yr heddlu.

Mae’r protestwyr wedi cyhuddo’r heddlu o ymddwyn yn “ffiaidd” tuag atyn nhw, ac o “wthio cadeiriau olwyn o gwmpas”.

Mae’r grŵp ‘Pobol Anabl yn erbyn Toriadau’ yn ymgyrchu yn erbyn y penderfyniad i ddiddymu’r Gronfa Byw’n Annibynnol.

‘Gwrthod gwrando’

Dywedodd llefarydd ar ran y protestwyr: “Mae gan lawer o’r bobol hyn anableddau difrifol iawn, cadeiriau olwyn gyda’u cyfarpar…”

Ychwanegodd hi nad oes gan y protestwyr ddewis arall ond protestio gan fod y “Llywodraeth yn gwrthod gwrando ar yr hyn sydd gan bobol anabl i’w ddweud am y mater.”

Cadarnhaodd Heddlu Llundain fod un person anabl a gofalwr wedi cael eu tywys o Balas Westminster, ond na chafodd unrhyw un ei arestio.

Cafodd y neuadd ganol ei chau i’r cyhoedd am hyd at hanner awr wrth i’r heddlu geisio tawelu’r protestwyr.

Y tu allan i’r adeilad, arhosodd pobol mewn cadeiriau olwyn mewn rhes ar draws y ffordd, gan atal cerbydau – gan gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus – rhag mynd heibio.