Dywed yr Asiantaeth Trosedd Genedlaethol (NCA), sy’n cynnal ymchwiliad newydd i’r sgandal yn Rotherham, eu bod nhw wedi adnabod tua 300 o bobl a allai fod dan amheuaeth o ecsbloetio plant yn rhywiol.

Dywedodd uwch swyddog yr ymchwiliad, Steve Baldwin, fod y 1,400 o ddioddefwyr yn y dref a nodwyd yn adroddiad damniol yr Athro Alexis Jay, yn “amcangyfrif da iawn”.

Dechreuodd ymchwiliad yr NCA – Operation Stovewood – ym mis Rhagfyr ar ôl i Heddlu De Swydd Efrog ofyn i’r asiantaeth ymyrryd.

Roedd hynny’n  dilyn adroddiad yr Athro Alexis Jay wnaeth roi darlun brawychus o gannoedd o blant yn cael eu treisio, eu hecsbloetio a’u cam-drin gan gangiau o ddynion, Asiaidd yn bennaf, yn Rotherham rhwng 1997 a 2013.

Roedd yr adroddiad, a gyhoeddwyd ym mis Awst y llynedd, yn feirniadol iawn o’r heddlu a chamau gweithredu’r awdurdodau lleol dros 16 mlynedd, gan arwain at nifer o ddiswyddiadau.

Dywedodd Steve Baldwin fod ei dîm – sy’n cynnwys 32 o swyddogion ar hyn o bryd – wedi archwilio 47 o focsys o ddeunydd ysgrifenedig, gan gynnwys 1,500 o ffeiliau gan un sefydliad yn unig a oedd wedi ceisio helpu nifer o’r dioddefwyr honedig.

Cadarnhaodd fod y rhan fwyaf o’r rhai sydd dan amheuaeth posib yn ddynion Asiaidd, a bod y rhan fwyaf o’r dioddefwyr yn ferched Prydeinig gwyn a menywod ifanc.

Cadarnhaodd y NCA bod dau o’r rheini sydd dan amheuaeth yn gwasanaethu neu yn gyn-gynghorwyr yn  Rotherham.