Mae adroddiadau wedi eu cadarnhau bod cwmni darlledu mawr ITV wedi prynu Grŵp Twofour sy’n berchen ar rai o’r prif gwmnïau teledu Cymraeg.

Mae’n ymddangos bod ITV wedi talu £55 miliwn am dri chwarter y cyfrannau yn y mam gwmni sy’n berchen ar y grŵp – gan gynnwys Boom Plant, sy’n cynhyrchu llawer o raglenni Cyw, Boom Cymru, Boomerang, cwmni adnoddau Gorrilla yng Nghaerdydd a chwmni Saesneg Indus yn y brifddinas.

Does dim gwybodaeth eto am effaith y cytundeb ar y cwmnïau Cymraeg a oedd wedi uno gyda Twofour yn 2013.

Fe fu ail-drefnu flwyddyn yn ôl, gyda sylfaenydd Boom, Lorraine Hegessy, yn gadael ac enw’r cwmni’n newid i Twofour Group dan gadeiryddiaeth sylfaenydd Twofour.

Mae sylwebyddion yn dweud y bydd y fargen yn cynyddu gallu ITV i gynhyrchu rhaglenni – mae gan ITV hefyd bresenoldeb yng Nghymru a nhw sy’n cynhyrchu rhaglenni fel Y Byd ar Bedwar a Hacio.

Dywedodd ITV wrth Golwg360 nad ydyn nhw’n bwriadu gwneud “unrhyw newidiadau” i gwmni Twofour.