Mae tri dyn wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth tri phlentyn mewn tân mewn tŷ yn Swydd Derby ddydd Sul.

Cafodd y tri eu harestio gan Heddlu Derby yn dilyn marwolaeth Amy Smith, 17, ei merch chwe mis oed, Ruby-Grace Gaunt, a’i ffrind Edward Green, 17, mewn ty yn Langley Mill, yn gynnar fore dydd Sul.

Credir bod tad y plentyn, Shaun Gaunt a dau o bobl eraill wedi cael eu dal yn y tân hefyd.

Mae’r heddlu’n ymchwilio i geisio darganfod a gafodd y tân ei gynnau’n fwriadol.

Cafodd llanc 17 oed o Long Eaton, dyn 21 oed a dyn 43 oed o Sandiacre eu harestio yn hwyr neithiwr ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Maen nhw’n parhau i gael eu holi’r bore ma.

Mae’r heddlu’n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.