Mae’r heddlu yn trin digwyddiad lle cafodd corff dynes ei ddarganfod yn y môr ger Dinbych y Pysgod fel digwyddiad “amheus”.

Cafodd y ddynes, sydd yn ei 60au, ei gweld am y tro diwethaf nos Sul yn gwisgo cot werdd a bag cefn.

Cafodd ei chorff ei ddarganfod nos Lun ac mae’r heddlu yn dweud nad yw hi wedi cael ei hadnabod yn ffurfiol hyd yn hyn.

“Rydym hefyd yn gwybod ei bod hi’n gwisgo blows flodeuog, legins du ac esgidiau Ugg,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys.

Mae’r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus ac mae ymchwiliad wedi cychwyn i geisio canfod achos ei marwolaeth.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.