Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru ymateb heddiw i adroddiad wnaeth alw am ddiwygio’r system hyfforddiant i athrawon, gan ddweud ei fod wedi dirywio dros y 10 mlynedd ddiwethaf.

Fis Mawrth, fe wnaeth yr Athro John Furlong ddadlau bod diwygio hyfforddiant yn gwbl allweddol er mwyn codi safonau.

Ac yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad, fe wnaeth gwleidyddion feirniadu’r system hyfforddiant yng Nghymru gan ddweud bod gormod o fiwrocratiaeth mewn ysgolion.

Roedd naw argymhelliad o fewn adroddiad yr Athro Furlong oedd yn cynnwys gwella capasiti ymchwil, sefydlu ‘Bwrdd Achredu Addysg Athrawon’ o fewn Cyngor y Gweithlu Addysg a diwygio canllawiau’r corff arolygu Estyn fel bod arolygiadau ysgolion yn cydnabod cyfraniad at hyfforddiant athrawon.

Roedd hefyd yn awgrymu bod myfyrwyr ar gyrsiau hyfforddi yn treulio 50% o’u hamser mewn adrannau ysgolion sy’n arbenigo yn eu prif bwnc.

Bryd hynny, fe wnaeth y Gweinidog Addysg Huw Lewis ddweud bod yr  achos dros newid y system yn “gryf iawn” ac fe fydd yn cyhoeddi ymateb llawn yn ddiweddarach.