Awyren LinksAir
Ddeufis ar ôl cael ei lansio, mae gwasanaeth awyr newydd o faes awyr Caerdydd i Norwich wedi dod i ben.

Cafodd y gwasanaeth ei sgrapio am ei fod yn “annhebygol o wneud elw” yn ôl cwmni LinksAir.

Ond mae gwleidydd blaenllaw wedi dweud y bore ‘ma nad oedd o fyth yn disgwyl i daith o Gaerdydd i Norwich lwyddo o’r cychwyn cyntaf.

Dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru Andrew R T Davies ar ei gyfrif trydar: “Mae’n anodd iawn meddwl sut y byddai taith i Norwich erioed wedi bod yn ymarferol.”

LinksAir sydd hefyd yn cynnal y gwasanaeth dyddiol rhwng Caerdydd ac Ynys Môn ac mae’r cwmni wedi cadarnhau na fydd hwnnw’n cael ei effeithio.

Fe fydd unrhyw un sydd wedi archebu tocynnau i Norwich yn cael eu harian yn ôl.

‘Angen gwell strategaeth farchnata’

Ychwanegodd llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar drafnidiaeth Eluned Parrott na ellir disgwyl i daith lwyddo mewn cwta ddeufis:

“Rwy’n siomedig nad oedd y gwasanaeth yn llwyddiant, ond nid ydw i’n synnu nad oedd yn medru dod o hyd i gwsmeriaid mewn deufis yn unig.

“Roedd angen rhoi mwy o amser i’r daith a hybu’r marchnata. Rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda phrif weithredwr newydd y maes awyr i lunio strategaeth farchnata well er mwyn sicrhau llwyddiant.”