Fe fydd adolygiad annibynnol yn ceisio darganfod pam bod gymaint o blant sydd wedi bod mewn gofal yng Nghymru a Lloegr yn troseddu.
Mae plant a phobol ifanc rhwng 10 ac 17 oed dros bum gwaith yn fwy tebygol o fod mewn trafferthion gyda’r gyfraith na’r rhai sydd heb fod mewn gofal, meddai’r Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai sydd wedi pwyso am yr adolygiad.
Wedi’i arwain gan y cyn-weithiwr cymdeithasol yr Arglwydd Laming, fe fydd yr ymchwil yn ystyried materion fel pa mor aml mae’r plant wedi symud cartref a sut mae awdurdodau yn delio hefo troseddu.
“Mae llai na 1% o blant a phobol ifanc mewn gofal awdurdodau lleol, eto mae traean o’r bechgyn a 61% o’r merched sydd yn y ddalfa wedi bod mewn gofal,” meddai’r Arglwydd Laming.
“Allwn ni ddim gwastraffu cyfleoedd pan mae’r plant yn ifanc, sy’n arwain at wastraffu bywydau yn ddiweddarach.”
Camdriniaeth
Mae dau o bob tri phlentyn sy’n cael llety gan yr awdurdodau lleol mewn gofal am eu bod wedi cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso.
Yn ôl elusen yr NSPCC mae hyn yn “adlewyrchiad damniol” ar y system.
“Mae angen adolygiad ar frys,” meddai llefarydd. “ Nid yw bod yn ddioddefwr yn esgus am droseddu ond ni ddylai bod mewn gofal fod yn llwybr i garchar chwaith.”