Michael Gove
Fe fydd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Michael Gove yn beirniadu’r system gyfiawnder bresennol heddiw gan ddweud ei fod yn ffafrio’r cyfoethog ac yn methu dioddefwyr troseddau.

Mae disgwyl iddo ddweud bod y rhai tlotaf mewn cymdeithas yn dioddef oherwydd y system tra bod pobl gyfoethog yn gallu sicrhau’r gwasanaeth cyfreithiol orau yn y byd.

Mae’n galw am ddiwygiadau brys i’r llysoedd yng Nghymru a Lloegr er mwyn dod a diwedd i’r methiannau yn y system.