Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan wedi cyhuddo’r Blaid Lafur Brydeinig o “danseilio” gwaith Llywodraeth Cymru wrth iddyn nhw geisio datganoli pwerau dros blismona a chyfiawnder i Fae Caerdydd.

Daw sylwadau Liz Saville Roberts ar ôl i Yvette Cooper fynnu na fyddai Llafur yn barod i ddatganoli’r pwerau i Gymru pe baen nhw’n dod i rym ar ôl yr etholiad cyffredinol ar Orffennaf 4.

Plismona

Yvette Cooper oedd llefarydd materion cartref Llafur yn San Steffan cyn i’r senedd gael ei diddymu ar gyfer yr etholiad cyffredinol yn ddiweddar.

Mae’n debygol, felly, mai hi fyddai’r Ysgrifennydd Cartref nesaf pe bai Llafur yn cipio grym.

Dywed ei bod hi’n bwysig “cadw’r cysylltiad” rhwng plismona yng Nghymru a Lloegr, sy’n hollol wahanol i farn Llywodraeth Cymru, sydd wedi bod yn datgan eu cefnogaeth i ddatganoli’r pwerau i’r Senedd.

Ond mae’r Ceidwadwyr yn dweud bod y Llywodraeth Lafur yng Nghymru’n “gwastraffu arian” ar brosiectau diangen, ac mae Plaid Cymru hefyd yn eu cyhuddo nhw o “ddiffyg uchelgais i Gymru”.

Ar hyn o bryd, mae plismona wedi’i ddatganoli i’r Alban a Gogledd Iwerddon, ond nid i Gymru.

Wrth gyflwyno’i rhesymau dros wrthwynebu datganoli’r pwerau, dywedodd Yvette Cooper wrth y BBC fod yr hyn sy’n digwydd yng Nglannau Mersi, er enghraifft, “yn cael effaith ar ogledd Cymru ac ati”.

Ond mae hi hefyd wedi cyhuddo’r Ceidwadwyr o gefnu ar Gymru, er bod nifer y plismyn wedi cynyddu o 7,479 yn 2010 i 8,091 yn 2023 – er gwaethaf cwymp i 6,719 yn 2016.

‘Gwneud cymunedau’n fwy diogel’

“Mae Llafur y Deyrnas Unedig yn tanseilio’n uniongyrchol waith Llywodraeth Lafur Cymru ar ddatganoli plismona a chyfiawnder,” meddai Liz Saville Roberts, sy’n sefyll fel ymgeisydd i barhau’n Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd.

“Plaid Cymru ydy’r unig blaid yn yr etholiad hwn sydd â chynllun i wneud ein cymunedau’n fwy diogel drwy system gyfiawnder Gymreig.”